|
|
| YN GWEITHIO DRWY'R FLWYDDYN YN Y PORTH - NID DIM OND ADEG ETHOLIAD Gwanwyn 2006 | |
| SIOPWYR PORTH YN CAEL EU BRADYCHU GAN LAFUR |
Mae Julie Williams, Cynghorydd y Blaid yn y Porth wedi mynegi pryderon dybryd ynglyn â'r dyfodol i siopwyr yn Stryd Hannah a chanol tref Porth. Yn yr etholiadau cyngor diwethaf yn 2004, un o addunedau taflen etholiadol Llafur oedd i 'Ymgynghori ar strategaethau newydd adfywio canol tref'. Gyda tair siop wedi cau ers y Nadolig a FADS nawr yn gwneud pedair, ai dyma ystyr adfywio i Lafur Newydd? Mae'r gwaith ar y ffyrdd wedi achosi problemau, ond problemau y gwyddom amdanynt ymlaen llaw. Mae parcio yn brif gonsyrn, ond petai parcio'n cael ei wahardd ym maes parcio'r siopwyr tu cefn i Stryd Hannah cyn 9.30 y.b. mi fyddai'n golygu gwell balans rhwng staff swyddfeydd a siopwyr. Petai parcio i'r rhai nad ydynt yn breswylwyr ar Stryd Gorllewin Taf yn cael ei gyfyngu i un awr mi fyddai'n annog trosiant cyflymach o gerbydau ac yn ei wneud yn haws i'r wardeiniaid ei reoli. Os yw Stryd Hannah i oroesi fel y ganolfan siopa fywiog sydd ei hangen ar drigolion y Rhondda, yna mae'n rhaid cymryd camau ar unwaith i arbed dirywiad pellach. |
| Y CYNGOR YN METHU CLIRIO SBWRIEL |
Sefydlwyd y Tîm Wastebusters gan Blaid Cymru fel gwasanaeth cyflym i daclo problem gollwng gwastraff yn Rhondda Cynon Taf. Nawr fod Llafur yn rhedeg y cyngor mae'r gwasanaeth yn dirywio a mae sbwriel yn cael ei adael i bentyrru dros fisoedd lawer. Rhoddom alwad i 'linell gymorth' Wastebusters ar Chwefror 13eg i roi gwybod am ddympio sbwriel ers misoedd ar hyd Graig Ddu yn Dinas. Dywedwyd wrthym y byddai tîm yno o fewn deuddydd i glirio'r llanast. Cymerwyd y llun gyferbyn ar Fawrth 9fed - dros dair wythnos yn ddiweddarach. Mae'r cyngor Llafur yn hysbysebu'r 'llinell gymorth' yn eu papur 'Rhagolygon'. Y rhif yw 01443 494847, ond peidiwch â dal eich anadl. |
| AMSER Y GAEL Y GWIR |
|
Yn etholiadau'r cyngor yn 2004 addunedodd Llafur Newydd yn eu taflen sglein y byddent yn:
"Hybu gweithgareddau cadarnhaol ar gyfer pobl ifainc". GWIRIONEDD - maent yn cau pyllau nofio'n gynnar ac yn cau adnoddau addysgiadol ym Mharc Gwledig Glyncornel "Adolygu cefnogaeth i glybiau ieuenctid a darparu symiau bychain o arian i bobl ifainc wario eu hunain". GWIRIONEDD - maent yn cwtogi grantiau i glybiau ieuenctid ac yn gorfodi nifer i gau. "Ymgynghori ar strategaethau newydd i adfywio canol y dref". GWIRIONEDD - Edrychwch mewn difri ar Stryd Hannah nawr. Yng nghylchlythyr Llafur Newydd ar gyfer y Porth fe wnaethant addewid i "Ymgyrchu am lyfrgell gymunedol fodern llawr-gwaelod yng nghanol y dref, fel yn Nhreorci a Thonypandy, i gymryd lle y llyfrgell bresennol. GWIRIONEDD - Mae'n rhaid mai hwn yw'r ymgyrch dawelaf erioed; 'dyw tîm Llais Porth heb weld unrhyw beth yn digwydd eto, ydych chi? Ryn ni'n disgwyl i addewidion ac addunedau etholiadol gael eu cadw. Ryn ni'n gwybod fod Tony Blair wedi dweud celwydd am arfau dinistr torfol yn Irac. Ryn ni'n gwybod fod Llafur Newydd wedi dweud celwydd am ofal cartref rhad ac am ddim i'r henoed yn etholiadau'r Cynulliad, a nawr ryn ni'n gallu gweld faint o wirionedd oedd yn eu haddewidion etholiadau lleol yma yn y Porth. FFAITH: Allwch chi ddim ymddiried yn Llafur. |
| Cysylltu |
Cyng. Julie Williams teleffon 01443 682428 neu e-bost juliewilliams@porthplaid.com. |